Mae’r rhaglen ffoneg synthetig, Tric a Chlic yn dathlu ei phen-blwydd yn 10 oed. Ers sefydlu’r rhaglen wreiddiol mae bellach yn gynllun sy’n cael ei ddefnyddio’n genedlaethol mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg, fel ei gilydd. Gwelwyd ysgolion ar hyd a lled Cymru, ymhob rhanbarth, yn buddsoddi ac yn elwa’n sylweddol o’r rhaglen.
Er mwyn nodi’r achlysur pwysig hwn, a hynny ar Ddiwrnod y Llyfr, penderfynwyd mynd ati i lansio gwefan newydd Tric a Chlic. Dyma fydd cartref newydd holl gynnwys Tric a Chlic! Rhoddwyd cyfle i ysgolion a rhieni dreialu’r wefan gan ddarparu adborth. Diolch yn fawr i bawb sydd wedi gwneud eisoes, mae eich sylwadau a’ch adborth yn hynod o werthfawr i ni wrth i ni gynllunio a datblygu’r rhaglen ymhellach. Os oes gennych chi syniadau y carech eu rhannu yna danfonwch nhw at [email protected].
Bum yn ddigon ffodus o gael dathlu’r achlysur gydag Ysgol Gymraeg Lon Las, Abertawe ac fe gawsom fore hyfryd gyda rhai o ddisgyblion dosbarth Derbyn yr ysgol sy’n defnyddio’r rhaglen yn ddyddiol. Diolch yn fawr am y croeso cynnes!
Fe fyddwn ni dros y misoedd nesaf yn ychwanegu’n gyson i’r wefan a hynny o dan eich arweiniad chi ddefnyddwyr! Ond am y tro ac er mwyn parhau â’r dathlu rydym wedi ychwanegu adnoddau newydd i’r siop sef,
- Cardiau llythrennau a synau digidol. Set o 55 o gardiau llythrennau a synau o’r rhaglen sydd wedi eu gosod ar 28 tudalen A4 i’w lawrlwytho, eu hargraffu a’u defnyddio tro ar ôl tro .
- Pecyn rhieni digidol. Ffeil o adnoddau digidol i’w lawrlwytho Gweithgareddau a gemau i’w hargraffu ac i’w chwarae! *Dyma fersiwn ddigidol o’r CD-ROM Pecyn rheini Cam1, 2 a 3*
Rydym hefyd yn ymwybodol bod rhai yn cael anawsterau wrth osod neu redeg ein apiau Tric a Chlic ar eu dyfeisiau symudol a thabledi. Fel mesur dros dro, wrth i ni geisio darganfod datrysiad parhaol, rydym wedi sicrhau bod y ddau ap ar gael yma, ar y wefan, fel y gallwch barhau i’w defnyddio a’u mwynhau!