Ydych chi’n chwilio am yr adnoddau digidol ychwanegol a’r llawlyfr ddaeth gyda’ch pecyn Tric a Chlic? Dydyn ni ddim yn darparu rhain ar CD bellach, maen nhw ar gael i’w lawrlwytho’n ddigidol. Anfonwch neges at [email protected] i gael mynediad at yr adnoddau hyn. 

Sut dechreuodd Tric a Chlic?

Yn dilyn adnabod yr angen am ddeunydd ffoneg gwreiddiol a deniadol, aethpwyd ati i greu Tric a Chlic yn 2012 ar gyfer ysgolion cyfrwng Cymraeg sy’n cyflwyno eu haddysg ar lawr y dosbarth trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae tystiolaeth yn profi bod cyflwyno ffoneg synthetig mewn ffordd hwyliog a deniadol i blentyn ochr yn ochr â chlywed a gweld llyfrau a storiäu yn gweithio. Yn dilyn llwyddiant y rhaglen wreiddiol, fe wnaethom ddatblygu fersiwn o’r rhaglen ar gyfer plant ac ysgolion sydd eisoes wedi dysgu ffoneg synthetig trwy gyfrwng y Saesneg. Mae hwn yn dal i fod yn gynllun ffoneg Cymraeg ond mae’n adeiladu ar y sgiliau a ddysgwyd yn flaenorol.

Cliciwch ar y fersiwn perthnasol ar gyfer eich ysgol i ddarganfod mwy am y rhaglenni.