Ydych chi’n chwilio am yr adnoddau digidol ychwanegol a’r llawlyfr ddaeth gyda’ch pecyn Tric a Chlic? Dydyn ni ddim yn darparu rhain ar CD bellach, maen nhw ar gael i’w lawrlwytho’n ddigidol. Anfonwch neges at [email protected] i gael mynediad at yr adnoddau hyn. 

Tric a Chlic ar gyfer ysgolion cyfrwng Saesneg

Mae plant mewn ysgolion lle nad yw’r Gymraeg yn iaith gyntaf eisoes yn gweithredu rhaglen ffoneg synthetig trwy gyfrwng y Saesneg. Mae hyn yn golygu bod eu strategaethau darllen cynnar yn gryf yn y famiaith, felly mae’n broses naturiol i adeiladu ar eu gwybodaeth trwy gyflwyno rhaglen Tric a Chlic, sy’n dilyn yr un broses ond yn y Gymraeg.
Trwy ddefnyddio eu gwybodaeth flaenorol, bydd y plant yn dod i ddarllen a sillafu yn Gymraeg yn haws.
Yn gyntaf, bydd y plant yn dod i adnabod sain a ffurf llythrennau trwy ddefnyddio cardiau llythrennau a symudiadau’r cynllun Tric a Chlic ynghyd â chaneuon gwreiddiol, pwrpasol gan sicrhau ynganiad cywir o’r cychwyn cyntaf a symud gam ymhellach i ddysgu strategaethau cyfuno i ddarllen a segmentu geiriau i’w sillafu. Yma defnyddir cardiau llun a gair y cynllun.

Beth yw barn ysgolion ac athrawon?

Mae nifer fawr o ysgolion Cymru yn gweithredu’r rhaglen gyda’u dysgwyr ac yn gweld budd a llwyddiannau’r rhaglen.  Beth am wrando ar farn rhai am y rhaglen.  

Cwestiynau Cyffredin

Yn dilyn llwyddiant y rhaglen wreiddiol ar gyfer ysgolion Cymraeg lle mae’r Gymraeg yn famiaith ac yn cael ei ddefnyddio ar lawr y dosbarth lluniwyd rhaglen debyg ar gyfer ysgolion cyfrwng Saesneg.  Y mae’r ddau becyn yn dilyn yr un strwythur ond bo trefn cyflwyno’r seiniau yn amrywio rhwng y ddau.  Y rheswm am hyn yw y bydd y rhaglen cyfrwng Saesneg yn adeiladu ar sylfaenu’r ffoneg Saesneg fydd gan y plant eisoes.

Mae’r pecyn cyflawn yn cynnwys cyfres o 42 llyfr. Fe fyddwch chi’n derbyn 6 copi o bob llyfr.  Ceir setiau o gardiau mewn pocedi plastig ynghyd â setiau o stribedi darllen maint A4 ar gyfer eu torri.  Yn ogystal â hyn, fe fydd gennych fynediad at lwyth o adnoddau digidol a thaflenni tracio y gallwch eu lawrlwytho fel bo angen. 

Pris pecyn cyflawn yw £599. Gallwch hefyd ychwanegu at y pecyn trwy brynu camau unigol neu agweddau o’r pecyn cyflawn. I weld beth sydd ar gael, dilynwch y ddolen i’r siop.

Does dim rhaid i chi brynu’r pecyn cyflawn er mwyn gallu cyflwyno’r rhaglen. Mae pob cam hefyd yn cael ei werthu ar wahân.

Gallwch ddod o hyd i’r holl adnoddau ychwanegol ar ein siop ar-lein.

Wrth i chi brynu’r pecynnau o’n siop ar-lein byddwch yn derbyn cod i gael mynediad i’ch lawrlwythiadau digidol.  Os byddwch yn ei golli yna anfonwch e-bost atom.

Danfonwch e-bost at [email protected] ac fe allwn drefnu eich bod yn ail dderbyn y cod.   

Oes, mae modd dod o hyd i gasgliad o adnoddau ar gyfer rhieni yn ein hadran adnoddau.  Gallwch eu lawrlwytho neu beth am ymweld â’n siop ar-lein lle y gallwch ddod o hyd i adnoddau digidol ac adnoddau ychwanegol y gall rhieni eu prynu.  

Gallwch chi drefnu hyfforddiant neu sesiynau adolygu i’ch ysgol gan gysylltu ag awdures y rhaglen, Eirian Lloyd Jones [email protected]

Dylai’r ddau ap weithio ar y mwyafrif o ddyfeisiau iOS sy’n fwy newydd na ~2018.  Yn anffodus nid ydynt ar gael ar y Google Play Store ar hyn o bryd.  Oherwydd hyn rydym wedi sicrhau bod yr apiau ar gael i unrhyw un sydd am eu defnyddio, hyd nes y gallwn eu cyhoeddi eto ar Android: https://pth.cymru/tac-dros-dro

Beth sydd yn y bocs?

Eisiau gwybod beth yw cynnwys y rhaglen? Gwyliwch y fideos byr hyn er mwyn gweld beth sydd yn y pecyn pan fyddwch chi’n prynu’r rhaglen Tric a Chlic ar gyfer ysgolion cyfrwng Saesneg…

Peidiwch ag anghofio, mae pob pecyn yn dod gyda phecyn o adnoddau digidol i’w lawrlwytho.

Beth am weld sut y mae Tric a Chlic yn cael ei ddefnyddio mewn ysgolion ledled Cymru.

Hyfforddiant

Ers cyhoeddi’r cynllun Tric a Chlic i ysgolion ym mis Medi 2012 ac yna Tric a Chlic i ysgolion cyfrwng Saesneg yn 2018 rwyf wedi bod yn teithio Cymru benbaladr yn hyfforddi athrawon a chynorthwywyr dysgu ar sut i gyflwyno a gweithredu’r cynllun. Gwneir hyn fesul ysgolion unigol, clystyrau o ysgolion neu ar lefel consortiwm ac yn ystod y cyfnod clo ar y llwyfan Zoom. Erbyn hyn mae rhai miloedd o aelodau staff mewn cannoedd o ysgolion wedi derbyn yr hyfforddiant.

Yn ystod yr hyfforddiant byddaf yn esbonio ac yn enghreifftio y strategaethau â’r defnydd gorau o’r adnoddau cam wrth gam gan roi cymorth a chyfle i ymarfer, trafod a pharatoi.

Mae’r cyrsiau i ysgolion  yn agored i:

  • athrawon ysgolion cynradd
  • athrawon Unedau Anghenion Addysgol Arbennig ac Unedau iaith
  • athrawon llanw 
  • cynorthwywyr dysgu 

Os ydych chi am dderbyn hyfforddiant yna cysylltwch â [email protected]