Cefnogi eich plentyn yn y cartref gyda Tric a Chlic.

Os oes gennych chi blentyn yn yr ysgol gynradd, yna mae’n siŵr eich bod wedi clywed am ffoneg, sef dull o addysgu darllen a sillafu.  Byddwch chi am gefnogi eich plentyn gyda’r camau cyntaf i ddarllen.  Gall gwybod sut orau i wneud  hyn fod yn anodd yn enwedig o ystyried efallai bod dulliau addysgu wedi newid cryn dipyn ers i chi fod yn yr ysgol!

Efallai eich bod yn hollol newydd i raglen ffoneg synthetig fel Tric a Chlic! 

Peidiwch â phoeni.  Yma, medrwch ddod o hyd i syniadau, canllawiau ac  adnoddau i’ch cefnogi chi a’ch plentyn yn y cartref.

Mae darllen yn agor drysau i fyd newydd a chyfleoedd newydd. Gwnawn lwyddo gyda’n gilydd!

 

Cwestiynau Cyffredin

Rhaglen ffoneg synthetig yn y Gymraeg ar gyfer plant 3-7 oed yw Tric a Chlic. 

Mae dysgu seiniau’r llythrennau yn helpu’r plant gyda chyfuno (adeiladu’r seiniau o fewn geiriau, ar gyfer darllen) a segmentu (torri’r seiniau i lawr, ar gyfer sillafu). Bydd y plant yn gallu adnabod seiniau’r llythrennau yn y geiriau hyn yn wahanol i enwau’r llythrennau e.e. ae yn cae.

Nid nod Tric a Chlic ydy cyflwyno seiniau’r llythrennau mewn gwagle ond yn hytrach gyflwyno’r seiniau i greu geiriau i’w darllen a’u sillafu o’r dechrau un.

Yn dilyn cyflwyno’r sain gyntaf yn y rhaglen sef “m”, rhaid dewis sain arall megis “a” i symud ymlaen gan gyfuno’r seiniau i lunio’r gair m-a-m(mam). Felly, wedi cyflwyno dwy lythyren yn unig, gellir dechrau adeiladu geiriau synhwyrol. Ailadroddir hyn yn raddol wrth gyflwyno llythrennau eraill e.e. m-a-p (map) a p-a-m (pam).  Er mwyn deall mwy am drefn y seiniau/llythrennau edrychwch ar …….

(Cam 1).

Nid yw’r llyfrau’n cael eu gwerthu yn unigol ar hyn o bryd ac maent wedi’u hanelu’n bennaf at ddefnydd ysgolion. Efallai y byddwch yn sylwi nad ydynt yn dilyn patrwm stori. Y prif reswm am hyn yw eu bod yn atgyfnerthu’r geiriau sy’n cynnwys y seiniau a gyflwynir ar y lliw hwnnw. Rhaglen ffoneg yw hon ac nid cynllun darllen. Unwaith y bydd y plant yn gallu darllen yn hyderus, byddant wedyn yn symud ymlaen i ddarllen llyfrau stori.

Os yw eich plentyn yn mynychu ysgol cyfrwng Cymraeg, yna fe allech chi gefnogi eich plentyn trwy wrando ar seiniau’r llythrennau yn yr adran adnoddau ar y wefan hon. Gallwch weld y llythyren a gwrando ar y sain gyda’ch gilydd. Mae gennym hefyd ddetholiad o bodlediadau lle gallwch wrando ar Eirian, yr awdur, yn cyflwyno’r seiniau fel y maent yn ymddangos yn y llyfrau. Cofiwch fod sŵn y llythrennau’r un peth yn y Gymraeg a’r Saesneg! Os yw eich plentyn yn mynychu ysgol cyfrwng Saesneg, yna bydd wedi dysgu mwyafrif y seiniau wrth ddysgu eu ffoneg Saesneg.

Rhennir y rhaglen yn dri cham ac mae pob cam yn cynnwys lliwiau gwahanol. Mae’r cam cyntaf yn canolbwyntio ar eiriau 2-3 llythyren. Melyn yw lliw cyntaf Cam 1 lle bydd eich plentyn yn cael ei gyflwyno i’r set gyntaf o synau.

Mae gennym becynnau rhieni Tric a Chlic Cam 1 a Thric a Chlic Cam 2 a 3 ynghyd â Thric a Chlic yn y cartref. Cadwch lygad ar ddiweddariadau i’r wefan hon gan y byddwn yn rhyddhau adnoddau newydd yn ystod y flwyddyn.

Oes, ewch i’r adran adnoddau!  Gallwch ddod o hyd i glipiau sain, fideos a  llawer mwy yn rhad ac am ddim!

Bu’r llythrennau magnetig yn boblogaidd iawn ac rydym wrthi ar hyn o bryd yn cynllunio ar gyfer ail lansio’r adnodd, felly cadwch lygad ar ddiweddariadau ar ein gwefan! 

Dylai’r ddau ap weithio ar y mwyafrif o ddyfeisiau iOS sy’n fwy newydd na ~2018.  Yn anffodus nid ydynt ar gael ar y Google Play Store ar hyn o bryd.  Oherwydd hyn rydym wedi sicrhau bod yr apiau ar gael i unrhyw un sydd am eu defnyddio, hyd nes y gallwn eu cyhoeddi eto ar Android: https://pth.cymru/tac-dros-dro