Ydych chi’n chwilio am yr adnoddau digidol ychwanegol a’r llawlyfr ddaeth gyda’ch pecyn Tric a Chlic? Dydyn ni ddim yn darparu rhain ar CD bellach, maen nhw ar gael i’w lawrlwytho’n ddigidol. Anfonwch neges at [email protected] i gael mynediad at yr adnoddau hyn. 

Tric a Chlic ar gyfer ysgolion cyfrwng Cymraeg

Rhaglen ffoneg synthetig, systematig wreiddiol a deniadol yn y Gymraeg yw Tric a Chlic. 

Yn dilyn adnabod yr angen cynyddol am adnoddau lliwgar gyda diwyg atyniadol i ddenu plant at lyfrau, aethpwyd ati i awduro rhaglen ffoneg yn y Gymraeg ar gyfer ysgolion cyfrwng Cymraeg.   Yn dilyn profiadau a gafodd Eirian Lloyd Jones yr awdures yn ystod ei gyrfa ym maes llythrennedd a thrwy brofi amrywiol ffyrdd o addysgu darllen, gwelodd mai ffoneg synthetig oedd y ffordd orau o roi sail gadarn i blant ddysgu darllen a sillafu felly cyhoeddwyd y rhaglen yn 2012 i ysgolion cyfrwng Cymraeg.  

Mae Tric a Chlic yn rhaglen sy’n:

  • addysgu sain a ffurf llythrennau 
  • addysgu strategaethau adeiladu i ddarllen a thorri geiriau i sillafu
  • annog rhuglder a mynegiant wrth ddarllen o’r dechrau un
  • cynnig dulliau addysgu rhyngweithiol
  • atgyfnerthu’r camau yn rheolaidd
  • symud yn gyflym o un cam i’r llall.

Beth yw barn ysgolion ac athrawon?

Mae nifer fawr o ysgolion Cymru yn gweithredu’r rhaglen gyda’u dysgwyr ac yn gweld budd a llwyddiannau’r rhaglen.  Beth am wrando ar farn rhai am y rhaglen.  

Cwestiynau Cyffredin

Yn dilyn llwyddiant y rhaglen wreiddiol ar gyfer ysgolion Cymraeg lle mae’r Gymraeg yn famiaith ac yn cael ei defnyddio ar lawr y dosbarth, lluniwyd rhaglen debyg ar gyfer ysgolion cyfrwng Saesneg.  Y mae’r ddau becyn yn dilyn yr un strwythur ond bod trefn cyflwyno’r seiniau yn amrywio rhwng y ddau.  Y rheswm am hyn yw y bydd y rhaglen cyfrwng Saesneg yn adeiladu ar sylfeini’r ffoneg Saesneg fydd gan y plant eisoes.

Mae’r pecyn cyflawn yn cynnwys cyfres o 42 llyfr. Fe fyddwch chi’n derbyn 6 copi o bob llyfr.  Ceir setiau o gardiau mewn pocedi plastig ynghyd â setiau o stribedi darllen maint A4 ar gyfer eu torri.  Yn ogystal â hyn, fe fydd gennych fynediad at lwyth o adnoddau digidol a thaflenni tracio y gallwch eu lawrlwytho fel bo angen

Pris pecyn cyflawn yw £599. Gallwch hefyd ychwanegu at y pecyn trwy brynu camau unigol neu agweddau o’r pecyn cyflawn. I weld beth sydd ar gael, dilynwch y ddolen i’r siop.

Does dim rhaid i chi brynu’r pecyn cyflawn er mwyn gallu cyflwyno’r rhaglen. Mae pob cam hefyd yn cael ei werthu yn unigol ynghyd â’r adnoddau. Gallwch chi hefyd drefnu hyfforddiant i’ch ysgol cyn eich bod yn dechrau cyflwyno’r rhaglen.  Am ragor o wybodaeth am yr hyfforddiant, cysylltwch ag [email protected]

Gallwch ddod o hyd i’r holl adnoddau ychwanegol ar ein siop ar-lein. 

Wrth i chi brynu’r pecynnau o’n siop ar-lein byddwch yn derbyn cod i gael mynediad i’ch lawrlwythiadau digidol. Rydym yn cadw cofnod o’r codau.

Danfonwch e-bost at [email protected] ac fe allwn drefnu eich bod yn ail dderbyn y cod.   

Oes, mae modd dod o hyd i gasgliad o adnoddau ar gyfer rhieni yn ein hadran adnoddau.  Gallwch eu lawrlwytho neu beth am ymweld â’n siop ar-lein lle y gallwch ddod o hyd i adnoddau digidol ac adnoddau ychwanegol y gall rhieni eu prynu.  

 

Gallwch chi drefnu hyfforddiant neu sesiynau adolygu i’ch ysgol gan gysylltu ag awdures y rhaglen, Eirian Lloyd Jones [email protected]

Dylai’r ddau ap weithio ar y mwyafrif o ddyfeisiau iOS sy’n fwy newydd na ~2018.  Yn anffodus nid ydynt ar gael ar y Google Play Store ar hyn o bryd.  Oherwydd hyn rydym wedi sicrhau bod yr apiau ar gael i unrhyw un sydd am eu defnyddio, hyd nes y gallwn eu cyhoeddi eto ar Android: https://pth.cymru/tac-dros-dro

Beth sydd yn y bocs?

Gwyliwch y fideos byr hyn er mwyn gweld beth sydd yn y pecyn pan fyddwch chi’n prynu’r  rhaglen Tric a Chlic ar gyfer ysgolion cyfrwng Cymraeg…

Peidiwch ag anghofio, mae pob pecyn yn dod gyda phecyn o adnoddau digidol i’w lawrlwytho. 

Beth am weld sut y mae Tric a Chlic yn cael ei ddefnyddio mewn ysgolion ledled Cymru.

Hyfforddiant

Ers cyhoeddi’r rhaglen Tric a Chlic i ysgolion cyfrwng Cymraeg ym mis Medi 2012, ac yna i ysgolion cyfwng Saesneg yn 2018, rwyf wedi bod yn teithio Cymru benbaladr yn hyfforddi athrawon ysgolion cynradd a chynorthwywyr dysgu ar sut i gyflwyno a gweithredu’r rhaglen.  Gwneir hyn fesul ysgolion unigol, clystyrau o ysgolion neu ar lefel consortiwm ac yn ystod y cyfnod clo drwy Zoom.  Erbyn hyn mae rhai miloedd o aelodau o staff mewn cannoedd o ysgolion wedi derbyn yr hyfforddiant. 

Yn ystod yr hyfforddiant byddaf yn esbonio ac yn enghreifftio y strategaethau â’r defnydd gorau o adnoddau cam wrth gam gan roi cymorth a chyfle i ymarfer, trafod a pharatoi. 

Mae’r cyrsiau i ysgolion yn agored i:

  • athrawon ysgolion cynradd
  • athrawon unedau Anghenion Arbennig ac unedau iaith
  • athrawon llanw
  • cynorthwywyr dysgu

Os ydych chi am dderbyn hyfforddiant yna cysylltwch ag [email protected]