Llyfrau digidol gyda sain
Oeddech chi’n gwybod bo modd i chi brynu copïau o lyfrau’r gyfres ddarllen Dyna chi
Eirian Lloyd Jones ydw i, awdures rhaglen Tric a Chlic. Cefais fy ngeni a’m magu ym Mwlch y Llan, pentref yng Ngheredigion. Dechreuais fy ngyrfa nôl yn fy milltir sgwâr fel Pennaeth Adran Anghenion Dysgu Ychwanegol yn Ysgol Uwchradd Tregaron. Wedi treulio tair blynedd ar ddeg yno, symudais i Dde Cymru gan weithio yn Awdurdod Addysg Gwent i ddechrau a Thorfaen wedi ad-drefnu llywodraeth leol. Fy mhrif swyddogaeth oedd fel Athrawes Fro Ymgynghorol Cymraeg Mamiaith ond cefais gyfle i gyfrannu hefyd i nifer o bwyllgorau a grwpiau ffocws a bûm yn hyfforddi yn genedlaethol o dan adain CBAC ynghyd â chreu deunyddiau i wahanol sefydliadau megis Adran Addysg y BBC.
Yn ystod y cyfnod hwn cefais gyfle i fynychu nifer o gyrsiau a chynadleddau yn benodol ar ddulliau addysgu darllen gan addasu nifer o gynlluniau i’r Gymraeg. Wedi ymddeol yn rhannol, tynnais ar y profiadau hyn i greu rhaglen “Tric a Chlic” a bu cyhoeddi’r rhaglen yn fodd imi wireddu un uchelgais gan fy mod yn grediniol mai’r dull mwyaf effeithiol o addysgu darllen cynnar yw trwy gyfrwng ffoneg synthetig.
Peniarth yw un o’r prif gyhoeddwyr llyfrau ac adnoddau addysg Cymraeg a dwyieithog yng Nghymru.
Yn rhan o Brifysgol Cymru Drindod Dewi Sant, rydym wedi cyhoeddi dros 300 o deitlau print yn llyfrau plant ac yn adnoddau addysg, yn ogystal â thros 50 o adnoddau digidol, gwe a rhyngweithiol ac apiau ers ein sefydlu yn 2009.
Oeddech chi’n gwybod bo modd i chi brynu copïau o lyfrau’r gyfres ddarllen Dyna chi
Rydym o hyd yn chwilio am ffyrdd i ddatblygu cynnwys y rhaglen Tric a Chlic! A oes gyda chi syniadau y carech eu rhannu gyda ni? Beth am ddanfon eich syniadau atom: