Diogelu Data a Phreifatrwydd, a phwy ydym ni

Gwneuthuriad, a chyfrifoldeb, Peniarth, rhan o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yw’r wefan hon, sef – https://tricachlic.cymru. Mae PCYDDS yn cefnogi diogelu preifatrwydd rhyngrwyd fel sy’n ofynnol gan ddeddfwriaeth y DU ac yn cydnabod bod preifatrwydd personol yn fater pwysig.

Mae rhwymedigaeth gyfreithiol ar y Brifysgol i gydymffurfio â darpariaethau’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) a ddaeth i rym ar 25 Mai 2018.

Bydd y manylion personol a gesglir trwy ein gwefan ac a ddarperir gennych chi, y defnyddiwr, yn cael eu prosesu yn unol â’r ddeddfwriaeth. Ni fyddwn yn gwerthu, trwyddedu nac yn masnachu unrhyw wybodaeth bersonol i eraill. Nid ydym yn darparu gwybodaeth bersonol i gwmnïau marchnata uniongyrchol neu sefydliadau eraill o’r fath.

Sylwadau 

Pan fydd ymwelwyr yn gadael sylwadau ar y wefan rydym yn casglu’r data a ddangosir yn y ffurflen sylwadau, a hefyd cyfeiriad IP yr ymwelydd a llinyn asiant defnyddiwr porwr i helpu i ganfod sbam.

Mae’n bosibl y bydd llinyn dienw a grëwyd o’ch cyfeiriad e-bost (a elwir hefyd yn hash) yn cael ei ddarparu i wasanaeth Gravatar i weld a ydych yn ei ddefnyddio. Mae Polisi Preifatrwydd gwasanaeth Gravatar ar gael yma: https://automattic.com/privacy/  Ar ôl cymeradwyo’ch sylw, mae’ch llun proffil yn weladwy i’r cyhoedd yng nghyd-destun eich sylw.

Cyfryngau

Os ydych chi’n uwchlwytho delweddau i’r wefan, dylech osgoi uwchlwytho delweddau gyda data lleoliad wedi’i fewnosod (EXIF GPS) wedi’i gynnwys. Gall ymwelwyr â’r wefan lawrlwytho a thynnu unrhyw ddata lleoliad o ddelweddau ar y wefan.

Cwcis

Os byddwch yn gadael sylw ar ein gwefan gallwch ddewis cadw eich enw, cyfeiriad e-bost a gwefan mewn cwcis. Mae’r rhain er hwylustod i chi fel na fydd yn rhaid i chi lenwi’ch manylion eto pan fyddwch yn gadael sylw arall. Bydd y cwcis hyn yn para am flwyddyn.

Os byddwch yn ymweld â’n tudalen mewngofnodi, byddwn yn gosod cwci dros dro i benderfynu a yw eich porwr yn derbyn cwcis. Nid yw’r cwci hwn yn cynnwys unrhyw ddata personol a chaiff ei ddileu pan fyddwch yn cau eich porwr.

Pan fyddwch yn mewngofnodi, byddwn hefyd yn sefydlu sawl cwci i arbed eich gwybodaeth mewngofnodi a’ch dewisiadau arddangos sgrin. Mae cwcis mewngofnodi yn para am ddau ddiwrnod, ac mae cwcis opsiynau sgrin yn para am flwyddyn. Os dewiswch “Cofiwch Fi”, bydd eich mewngofnodi yn parhau am bythefnos. Os byddwch yn allgofnodi o’ch cyfrif, bydd y cwcis mewngofnodi yn cael eu dileu.

Os byddwch yn golygu neu’n cyhoeddi erthygl, bydd cwci ychwanegol yn cael ei gadw yn eich porwr. Nid yw’r cwci hwn yn cynnwys unrhyw ddata personol ac yn syml mae’n nodi ID post yr erthygl rydych chi newydd ei golygu. Mae’n dod i ben ar ôl 1 diwrnod.

Cynnwys wedi’i fewnosod o wefannau eraill

Gall erthyglau ar y wefan hon gynnwys cynnwys wedi’i fewnosod (e.e. fideos, delweddau, erthyglau, ac ati). Mae cynnwys sydd wedi’i fewnosod o wefannau eraill yn ymddwyn yn union yr un ffordd â phe bai’r ymwelydd wedi ymweld â’r wefan arall.

Gall y gwefannau hyn gasglu data amdanoch chi, defnyddio cwcis, mewnosod tracio trydydd parti ychwanegol, a monitro eich rhyngweithio â’r cynnwys sydd wedi’i fewnosod, gan gynnwys olrhain eich rhyngweithio â’r cynnwys sydd wedi’i fewnosod os oes gennych gyfrif ac wedi mewngofnodi i’r wefan honno.

Gyda phwy rydym yn rhannu eich data

Os byddwch yn gofyn am ailosod cyfrinair, bydd eich cyfeiriad IP yn cael ei gynnwys yn yr e-bost ailosod.

Am ba mor hir rydym yn cadw eich data

Os byddwch yn gadael sylw, cedwir y sylw a’i metadata am gyfnod amhenodol. Mae hyn er mwyn i ni allu adnabod a chymeradwyo unrhyw sylwadau dilynol yn awtomatig yn lle eu cadw mewn ciw cymedroli.

Ar gyfer defnyddwyr sy’n cofrestru ar ein gwefan (os o gwbl), rydym hefyd yn storio’r wybodaeth bersonol a ddarperir ganddynt yn eu proffil defnyddiwr. Gall pob defnyddiwr weld, golygu, neu ddileu eu gwybodaeth bersonol ar unrhyw adeg (ac eithrio na allant newid eu henw defnyddiwr). Gall gweinyddwyr gwefannau hefyd weld a golygu’r wybodaeth honno.

Pa hawliau sydd gennych dros eich data

Os oes gennych chi gyfrif ar y wefan hon, neu os ydych wedi gadael sylwadau, gallwch wneud cais i dderbyn ffeil wedi’i hallforio o’r data personol sydd gennym amdanoch, gan gynnwys unrhyw ddata rydych wedi’i ddarparu i ni. Gallwch hefyd ofyn i ni ddileu unrhyw ddata personol sydd gennym amdanoch chi. Nid yw hyn yn cynnwys unrhyw ddata y mae’n rhaid i ni ei gadw at ddibenion gweinyddol, cyfreithiol neu ddiogelwch.

Lle anfonir eich data

Gall sylwadau ymwelwyr gael eu gwirio trwy wasanaeth canfod sbam awtomataidd.