Mae dros fis bellach ers i ni ddathlu pen-blwydd Tric a Chlic yn ddeg oed ac i ni lansio’n gwefan newydd. Nod y wefan yw cartrefu holl gynnwys Tric a Chlic mewn un man sy’n rhwydd i’w gyrraedd. Mae’r ymateb i’r wefan hyd yn hyn wedi bod yn wych ac rydym yn hynod o ddiolchgar i bawb sydd wedi darparu adborth a syniadau! Parhewch i’w darparu!
Er mwyn cynnal y bwrlwm ein bwriad yw datblygu ac ychwanegu yn gyson at y wefan a hynny ar sail eich syniadau chi, y defnyddwyr. Felly beth am ein cynorthwyo? Ydych chi wedi creu adnodd sydd yn gweithio’n dda gyda’ch darllenwyr y carech ei rannu ag eraill? A oes gennych chi syniadau a fyddai’n eich cynorthwyo chi i weithredu’r rhaglen Tric a Chlic yn well yn yr ystafell ddosbarth neu yn y cartref? Neu syniadau y gall rhieni eu gwneud gartref er mwyn atgyfnerthu’r dysgu?
Gadewch i ni wybod os gwelwch yn dda, fe fyddem ni wrth ein boddau yn clywed eich syniadau. Pwy a ŵyr efallai y gallwn ni, gyda’ch cymorth chi, droi eich syniad yn adnodd cydnabyddedig!
Danfonwch eich syniadau at [email protected]