Oeddech chi'n gwybod bod yna gynllun darllen sy'n gysylltiedig â Tric a Chlic?

Cyfres Ddarllen Dyna chi Dric

Dyma gyfres ddarllen newydd sbon yn y Gymraeg sy’n cynnwys 21 o lyfrau ar 3 cham sy’n ennyn diddordeb y plant lleiaf mewn llyfrau a straeon difyr wrth iddynt ddatblygu eu sgiliau darllen a dod yn ddarllenwyr hyderus. Mae’r gyfres yn seiliedig ar gamau rhaglen Tric a Chlic ac yn cynnwys amrywiaeth o ffurfiau gwahanol fel llyfrau ffeithiol, cyfarwyddiadau, cerdyn post a llyfrau ag odl.

Gallwch ddod o hyd i weithgareddau trafod syml, geirfa cymorth a chyfieithiad o’r stori yng nghefn y llyfrau.  Yn ogystal â hyn mae cod QR yng nghefn y llyfrau a fydd yn eich arwain i adnoddau digidol ar lein. 

 

Mae’r llyfrau ar gael ar ein siop i’w prynu, gallwch hefyd brynu copïau o lyfrau digidol gyda sain, ac fel rhan o ddathliad lansio’r gyfres newydd fe fyddwn ni yn cynnig copïau o’r llyfrau digidol gyda sain i’w darllen am ddim am gyfnod byr!