Gyda gwyliau’r haf ar y gorwel, dyma gyfle i’ch atgoffa bod gennym bopeth sydd ei angen arnoch er mwyn diddanu eich plant ar ein gwefan Tric a Chlic!    

Mae’r detholiad o adnoddau sydd gennym yn ddelfrydol ar gyfer annog plant i ymarfer eu sgiliau ffoneg. Boed yn ganeuon i’w canu gyda’ch gilydd, gemau i’w gwneud a’u chwarae ar ddiwrnod gwlyb neu beth am wylio ambell bodlediad byr gan Eirian Lloyd Jones awdures y rhaglen.  

Gall y cyfnod hwn deimlo’n hir, felly dyma rhai syniadau i chi o weithgareddau hwyliog a syml y gallwch chi wneud adref gyda’ch plentyn er mwyn eu hannog i ddod yn ddarllenwyr ac ysgrifenwyr rhugl a hyderus!

Beth am ymarfer ffurfio llythrennau/geiriau yn y tywod, neu gan ddefnyddio sialc, paent, clai neu hyd yn oed sebon siafio. 

Oeddech chi’n gwybod bod sampl o weithgareddau ar ein gwefan o’n pecyn rhieni digidol.   Gallwch ddod o hyd i’r pecyn cyflawn ar ein siop ar-lein.  Beth am argraffu ein gêm dis llythrennau o’r wefan.  Mae’r gemau y gallwch chi ei chwarae gyda’r dis yn ddiddiwedd!   Beth am daflu’r dis gan ddweud y sain/gair.  Taflu’r dis ac yna ffurfio’r llythyren ar rolyn mawr o bapur neu fwrdd du.  Beth am osod her a newid y llythrennau am eiriau ar y dis?   

Chwarae gemau cyfateb – llythyren a llythyren, llythyren a llun, llun a llun neu gair a llun. 

Mae plant hyd yn oed yn mwynhau chwarae gemau her syml gyda llythrennau magnetig! 

Pob hwyl i chi a chroeso i chi rannu eich syniadau gyda ni.   Fe fyddem ni wrth ein boddau yn eu gweld. Pwy a ŵyr efallai y gallwn ni rannu eich lluniau ar ein gwefan ni! 

Danfonwch eich syniadau at [email protected]