Oeddech chi’n gwybod bo modd i chi brynu copïau o lyfrau’r gyfres ddarllen Dyna chi dric fel llyfrau digidol gyda sain. Fel rhan o lansiad y gyfres mae modd i chi gofrestru ar gyfer derbyn copïau i’w darllen yn rhad ac am ddim tan ddiwedd mis Mehefin.

Wedi’r cyfnod hwn fe fydd y llyfrau ar werth am bris rhesymol yn ein siop.

Yn ogystal i’r llyfrau digidol gallwch chi ddod o hyd i adnoddau ychwanegol ar lein ynghyd ag adnoddau trafod syml yng nghefn y llyfrau.