Oeddech chi’n gwybod bod eleni yn nodi deng mlynedd ers cyhoeddi rhaglen wreiddiol Tric a Chlic? Ac fel rhan o’r dathliadau rydym yn gyffrous iawn i fedru rhannu’r wefan newydd hon gyda chi fel rhieni ac ysgolion!  Dyma fydd cartref newydd holl gynnwys Tric a Chlic. 

Rydym wedi bod yn brysur yn adeiladu’r wefan hon dros y misoedd diwethaf ac yn awyddus iawn i dderbyn eich adborth chi.  Ym mis Ionawr, byddwn ni’n dathlu’n swyddogol 10 mlynedd o Tric a Chlic, ond am y tro, beth am bori drwy gynnwys y wefan, deall mwy am y rhaglen, gwrando ar ambell i gân neu chwarae gemau gyda’ch plentyn?  Mae digon yma i’ch diddanu dros y Nadolig!  

Mae eich adborth yn bwysig iawn i ni ac os oes gennych chi syniadau y carech chi eu rhannu gyda ni, yna danfonwch nhw atom drwy e-bostio [email protected]   

Rydym yn awyddus iawn i ddatblygu adnoddau newydd ar gyfer 2023, felly rhannwch eich syniadau gyda ni.   

Cadwch lygad allan yn y flwyddyn newydd am ddatblygiadau cyffrous i’r wefan ac i’r rhaglen, ond am y tro, carem ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi!