Adnoddau am ddim!

Dyma ddetholiad o adnoddau sy’n rhad ac am ddim i’w defnyddio gyda’ch plant er mwyn eu cynorthwyo â’r rhaglen Tric a Chlic.

Chwarae gemau

Eisiau chwarae gemau Tric a Chlic?  Dyma gyfle i chi ddefnyddio’r apiau Tric a Chlic ar eich porwr.  Dysgwch mewn ffordd hwyliog!

Caneuon

Gwrandewch ar ganeuon Tric a Chlic.  Gallwch ddilyn trefn lliwiau’r rhaglen neu ddewis eich hoff gân! 

Clipiau sain - llythrennau

Gwrandewch ar glipiau sain gwrando a dweud.  Gallwch ddilyn trefn lliwiau’r rhaglen neu wrando ar ambell un anghyfarwydd! 

Clipiau sain - geiriau

Gwrandewch ar glipiau sain gwrando a dweud.  Gallwch ddilyn trefn lliwiau’r rhaglen neu wrando ar ambell un anghyfarwydd! 

gemau

Beth am adolygu’r seiniau drwy chwarae rhai o’n gemau Tric a Chlic! Dewch o hyd i gasgliad o gemau lliwgar a difyr y gallwch eu chwarae gyda’ch plentyn! 

Mae’r adnoddau uchod yn sampl oddi ar ein CD-ROM Pecyn Rhieni. Er mwyn prynu’r pecyn llawn ewch i’n siop ar-lein.

Gwersi gyda Eirian!

Beth am ddilyn podlediadau byr Tric a Chlic gan Eirian Lloyd Jones, awdures y rhaglen. Gallwch ddilyn Eirian wrth iddi gyflwyno’r seiniau fesul un!  Mwynhewch!